Cyflafan Sandy Hook

Cyflafan Sandy Hook
Enghraifft o'r canlynolschool shooting, saethu torfol, matricide, murder–suicide, pedicide Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Rhagfyr 2012 Edit this on Wikidata
Lladdwyd28 Edit this on Wikidata
Rhan olist of school shootings in the United States Edit this on Wikidata
LleoliadSandy Hook Elementary School Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthFairfield County Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o ardal Newton, Connecticut.
Du: lleoliad tŷ Adam Lanza
Coch: lleoliad yr ysgol

Cyfres o lofruddiaethau yn Newtown, Connecticut, UDA, ar 14 Rhagfyr 2012 oedd cyflafan Sandy Hook neu gyflafan Sandy Newtown. Ar fore'r Dydd Gwener hwnnw, lladdodd Adam Lanza[1] ei fam, Nancy Lanza, a gyrrodd i Ysgol Gynradd Sandy Hook a saethu 20 o blant a chwech o oedolion yn farw cyn iddo ladd ei hunan.

Bu farw 18 o blant a chwe oedolyn yn yr ysgol ei hun. Bu farw dau blentyn arall yn hwyrach yn yr ysbyty lleol. Menywod oedd yr oedolion i gyd: dwy athrawes, dwy gynorthwywraig addysg, y brifathrawes, a seicolegydd yr ysgol. Roedd y plant fu farw i gyd yn 6 neu 7 mlwydd oed, ac wyth ohonynt yn fechgyn a 12 yn ferched. Cafodd dwy athrawes arall eu hanafu.

  1. (Saesneg) Adam Lanza: Profile of suspected US school shooting gunman. BBC (16 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search